Maria Lvova-Belova | |
---|---|
Ganwyd | Мария Алексеевна Львова-Белова 25 Hydref 1984 Penza |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Gyngor Ffederasiwn Rwsia, Children's Rights Commissioner for the President of the Russian Federation |
Plaid Wleidyddol | Rwsia Unedig |
Gwobr/au | Tystysgrif er Anrhydedd Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, Gorchymyn Cyfeillgarwch, Order of St. Prince Vladimir |
Gwleidydd o Rwsia yw Maria Alekseyevna Lvova-Belova (Rwseg: Мария Алексеевна Львова-Белова; ganwyd 25 Hydref 1984). Mae hi'n gwasanaethu fel y Comisiynydd Arlywyddol dros Hawliau Plant yn Rwsia ers 2021.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Llys Troseddau Rhyngwladol warant arestio ar gyfer Lvova-Belova. Dywedir iddi alltudio nifer o blant yn anghyfreithlon o Wcráin i Rwsia yn ystod y goresgyniad Rwsia o'r Wcráin yn 2022.[1]
Cafodd Lvova-Belova yn Penza. Graddiodd hi o Goleg Diwylliant a Chelfyddydau AA Arkhangelsky yn 2002 fel arweinydd.[2]
Rhwng 2000 a 2005, bu'n gweithio fel athrawes gitâr mewn ysgolion cerdd plant yn Penza. Cydsefydlodd a bu'n bennaeth ar sefydliad cyhoeddus rhanbarthol Penza ar gyfer hyrwyddo addasu cymdeithasol "Blagovest." Rhwng 2011 a 2014 a 2017 i 2019, roedd yn aelod o Siambr Ddinesig Penza Oblast, y tymor olaf yn gorgyffwrdd ag un yn Siambr Ddinesig Ffederasiwn Rwsia.[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search